Gwasanaethau ITWales
Croeso i dudalen Gwasanaethau ITWales. Yma gallwch gael gafael ar wybodaeth am ein gwasanaethau gwerth ychwanegol, sydd wediu cynllunio i fod o fudd i fusnesau yng Nghymru trwy wella cysylltiadau rhwng diwydiant ac Addysg Uwch.
Mae ein gwasanaethaun cynnwys y canlynol:
Lleoliadau Myfyrwyr a Graddedigion
Os oes gan eich sefydliad brosiect TG y gallai pr ychwanegol o ddwylo fod o fantais iddo, neu os oes arno angen datblygu meddalwedd er enghraifft, gallai ITWales leoli myfyriwr neu berson graddedig sydd r sgiliau cywir yn eich sefydliad i wneud y gwaith. Rydym yn arbenigo mewn lleoli myfyrwyr neu raddedigion ym maes TG a chyfrifiadureg mewn busnesau yng Nghymru ar gyfer prosiectau neu ddatblygiadau penodol. Mae ITWales mewn partneriaeth GoWales wedi bod yn rhedeg y cynllun hwn yn llwyddiannus ar hyd a lled Cymru ers 1993.





