Gosod y Safon ar gyfer Technoleg Gwybodaeth Ddwyieithog
gan Meri Huws
Mae byd TG yn datblygun ddi baid. Ugain mlynedd yn l, ni fyddair rhan fwyaf ohonom wedi credu y byddai cyfrifiaduron wedi cael effaith ar gymaint o agweddau ar ein bywydau, o ystyried bod gwaith swyddfa a llawer iawn on gohebiaeth bersonol bellach yn cael ei nodweddun drwm gan yr e-bost ar cyfrifiadur personol - heb sn am ddylanwad hollgynhwysol y We. Yn union fel y maer criw teipio wedi hen ddiflannu, mae technoleg fodern y dyddiau hyn yn esblygun sydyn ac nid ywn newydd am hir. Maen hanfodol bwysig bod Technoleg Gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau a chyfathrebu dwyieithog yn datblygu ymhellach, a bod unigolion yn gallu defnyddior Gymraeg yn y cartref ar gweithle.
Roedd 1 Rhagfyr 2004 yn
ddiwrnod hanesyddol ir iaith Gymraeg. Mewn gwesty ym Mae Caerdydd, lansiodd Microsoft a Bwrdd yr Iaith Gymraeg becynnau rhyngwyneb Iaith Gymraeg ar gyfer Microsoft Windows XP ac Office. Derbyniodd y prosiect, a oedd wedii ariannun llwyr gan Microsoft,
gyhoeddusrwydd aruthrol ac, o ganlyniad, cawsom geisiadau gan bob math o gyrff am y CD newydd ac i roir rhaglenni ar eu rhwydweithiau. Roedd y prosiect 15 mis hwn yn benllanw blynyddoedd lawer
o ddatblygu meddalwedd yn Gymraeg, ac yn gydnabyddiaeth glir gan y cwmni cyfrifiadurol byd-eang o bwysigrwydd yr iaith ei hun. Roedd hefyd yn dangos bod y sector preifat yn cydnabod pwysigrwydd
cynyddol y Gymraeg.
Yna, ganol mis Tachwedd 2006, lansiwyd Agored - fersiwn dwyieithog Saesneg/Cymraeg or meddalwedd Open Office. Maer prosiect cyfieithu enfawr hwn, wedii gyd-ariannu gan y Bwrdd, yn ddatblygiad arall ym myd technoleg iaith Gymraeg sydd wedii groesawun frwd.
Er bod Deddf Iaith Gymraeg 1993 yn rhoi dyletswydd yn bennaf ar y sector cyhoeddus i gynnig gwasanaethau dwyieithog, mae nifer o gwmnau hefyd yn penderfynun wirfoddol defnyddior iaith wrth ddelio chwsmeriaid yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys darparu arwyddion dwyieithog, defnyddio deunyddiau marchnata dwyieithog, mabwysiadu Polisau Iaith Gymraeg, a chyflogi staff dwyieithog syn gallu darparu gwasanaethaur cwmni drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae busnesaun cydnabod bod yr iaith yn fantais werthu unigryw iddynt wrth farchnata eu cynhyrchion yng Nghymru, a hefyd yn dangos eu hymrwymiad au parch at gyfansoddiad ieithyddol y wlad. Mae dros hanner miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ac, fel defnyddwyr, maen nhwn wirioneddol gwerthfawrogir defnydd a wneir or Gymraeg gan gwmnau preifat.
Mae Uned Sector Preifat Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn helpu busnesau i ddatblygu eu defnydd or Gymraeg. Mae ei gwasanaethaun cynnwys:
- Cyngor a chymorth ymarferol gan Swyddog Sector Preifat
- Grantiau a chyngor ar ddatblygu arwyddion dwyieithog a deunyddiau marchnata dwyieithog
- Gwasanaeth cyfieithu di-dl hyd at 30 o eiriau
- Cyngor ar sut i ddatblygu Polisi Iaith Gymraeg ar gyfer y cwmni
- Cymorth ar faterion fel recriwtio staff syn siarad Cymraeg ac ar ddatblygu ymwybyddiaeth o ddwyieithrwydd fel elfen o ofal cwsmer
Y nod yn y pen draw yw hwylusor defnydd or Gymraeg yn y sector preifat a helpu cwmnau i gynyddu eu defnydd presennol or iaith. Mae amryw o gwmnau eisoes wedi cofleidior cysyniad o ddwyieithrwydd drwy fabwysiadu arwyddion neu ddeunyddiau marchnata dwyieithog, ond mae Bwrdd yr Iaith hefyd yn gweithio chwmnau i gynyddu eu capasiti i ddarparu gwasanaethau dwyieithog.
Mae TG yn hollbwysig yn y cyswllt hwn. Mae Grant Busnes Bwrdd yr Iaith Gymraeg eisoes
wedii ddefnyddio gan nifer o fusnesau i ddatblygu gwefannau dwyieithog ac maer Bwrdd wedi rhoi
canllawiau a chymorth ar sut i ddatblygu a chreur gwefannau hyn. Maer canllawiau hyn wedi eu hymgorffori yn ein cyhoeddiad diweddar, Canllawiau a Safonau Meddalwedd Dwyieithog. Mae hon yn
ddogfen ganllawiau syn rhoi cyngor manwl a thechnegol ar sut i greu rhaglenni meddalwedd dwyieithog. Ein nod yw nid yn unig cynyddu presenoldeb gweledol yr iaith Gymraeg ar y We, ond hefyd
datblygu meddalwedd a fydd yn hwyluso darparu gwasanaethau dwyieithog ar defnydd or iaith yn y gweithle ac yn ein bywydau beunyddiol.
Mae Pecyn Rhyngwyneb Iaith Microsoft yn chwarae rl bwysig yn y cyswllt hwn gan ei fod yn caniatu i unigolion a chwmnau ddefnyddio eu cyfrifiaduron drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel un or prif leoleiddiadau yn Gymraeg hyd yma, maer rhaglen hon yn rhoi cyfle di-dl i ddefnyddwyr ddefnyddior Pecynnau Rhyngwyneb Iaith Gymraeg gyda Microsoft Office 2003 a Windows XP. Yn syml, os byddwch yn defnyddior rhaglenni hyn, o fewn ychydig funudau bydd eich dewislenni, blychau deialog - eich prif brofiad ar-y-sgrn - yn Gymraeg. Gan fod cymaint ohonom eisoes yn gyfarwydd chynhyrchion Microsoft, maen eithriadol hawdd dod i arfer r peth. Maer cyfieithu wedi elwa o lygad barcud rhai or arbenigwyr cyfieithu, ieithyddol a TG gorau yng Nghymru, a hyd yn oed wedi datrys y broblem o roi to bach ar w ac y. Os hoffech ddefnyddior meddalwedd, ewch i www.welsh-language-board.org.uk i lawrlwythor meddalwedd yn rhad ac am ddim, neu i archebu CD sydd hefyd yn ddi-dl.
Bydd defnyddior Gymraeg mewn busnes, a datblygu TG ddwyieithog, yn un or prif destunau trafod yn nigwyddiad TGCymru nesaf rhanbarth Gogledd Cymru yng Nghanolfan Technium Cast ar 30 Tachwedd 2006. Os ydych eisiau mynychur digwyddiad di-dl hwn, itwales.com/997763_Setting-the-standard-for-Bilingual-IT.htm.





