Date: 2003-10-27 Category: Events
Sioe Deithiol TGCh Cymru - Abertawe
Cysylltu mentrau cymorth TGCh Cymru i anghenion busnes unigol18 - 21 Tachwedd,Canolfan Dylan Thomas,Abertawe
Annwyl Gyfaill,
Mae r rhan fwyaf o fusnesau wedi cydnabod y gall defnydd Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu TGCha r rhyngrwyd gyflwyno buddion busnes o bwys ynghyd mantais gystadleuol ym marchnad ffyrnig heddiw. Er hynny, y sialens fwyaf sy n wynebu nifer o fusnesau yw ble i droi i gael cymorth a chyngor TGCh fforddadwy a dibynadwy,gan gynnwys sut i gyllido buddsoddiadau TGCh.
Dyma ch gwahoddiad personol chi i ddigwyddiad sydd wedi i anelu i helpu i oresgyn y sialensiau yma! Daw Awdurdod Datblygu Cymru r holl fentrau cymorth busnes TGCh allweddol ynghyd i un digwyddiad eglur addysgiadol. Yn ogystal,er mwyn lleihau r pwysau amser o deithio i ddigwyddiadau mawr, mae n dod r digwyddiad atoch chi,i ch cymuned busnes lleol.
Ar Dachwedd 20 a r 21 bydd Canolfan Dylan Thomas yn Abertawe yn croesawu llu o sefydliadau cymorth busnes TGCh gan gynnwys Trelar WIS,Llygad Busnes,Rhwydwaith Canolfan Gymorth TGCh, Cyfle Cymru,Rhaglen SME-Fusnes Cymru, @TEB, WASP, Bandeang Cymru, TG Cymru a Bwrdd Croeso Cymru. Mae Sioe Deithiol TGCh yn gweithredu o fewn fframwaith strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cymru Ar Lein. Bydd y sefydliadau yma yn cynnig cyngor a chymorth ymarferol ar sut mae technoleg cyfathrebu a r rhyngrwyd yn medru cynyddu effeithiolrwydd eich busnes,cynhyrchiant ac yn bennaf oll, proffidioldeb.
Trwy gyfuniad o seminarau addysgiadol, gweithdai ymarferol ac arddangosfa wedi i deilwra, nod y digwyddiad hwn yw arddangos y cynlluniau cymorth TGCh a mentrau ariannu sydd ar gael i helpu ch busnes i ffynnu a llwyddo. Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau pwysig gan nifer o r prif sefydliadau cymorth, astudiaethau achos o gwmnau llwyddiannus sydd wedi cymryd camau i leoli TGCh o fewn eu busnes a sesiwn ymgynghorol un-i-un wedi i deilwra at anghenion unigol eich busnes.
Ar ben hynny, yn wasanaeth cymorth ychwanegol,bydd Trelar WIS wedi i leoli tu allan y Ganolfan o ddydd Mawrth 18 Tachwedd hyd at ddydd Gwener 21 Tachwedd ac yn rhedeg cyfres o glinigau, gweithdai a chyflwyniadau. Mae Trelar WIS yn arddangosle symudol modern, sy n cynnwys technolegau rhyngweithiol uwch wedi u cynllunio i gynnig arddangosiadau ymarferol ar fuddion TGCh. Am wybodaeth mwy manwl ac amserlen llawn o r gweithgareddau, gweler y ffurflen gofrestru amgaedig.
Yn gywir
Patrick Sullivan
Cyfarwyddwr Cymru Gyfan
Rhaglenni Technoleg a r Cyfryngau
WDA





